Nôl i'r ysgol: Dosbarth siaradus!

  • Cyhoeddwyd

Mae'n gyfnod y mae athrawon ar hyd a lled Cymru wedi bod yn ei ofni, ydi mae'n bryd mynd nôl i'r ysgol! Mae'n dalcen caled, yn enwedig os oes ganddoch chi lond dosbarth o blant siaradus!

Mae Cymru Fyw wedi casglu lluniau rhai o blantos mwya' siaradus Cymru dros y blynyddoedd ac mae'n dal i fod yn anodd rhoi taw arnyn nhw! Pwy ydyn nhw?

Pwy yw hi?

Ar ôl cyflawni camp lawn mae'r ferch hon bellach i'w chlywed yn clebran mewn iaith estron! Pwy yw hi?

Pwy ydi o?

Oedd y bachgen yma yn dal ei fws ysgol cyn i'r post cyntaf gyrraedd? Pynderfynwch chi pwy yw e

Pwy ydi o?

Mae'r bachgen bach yma yn edrych yn fodlon ei fyd. Mae'n rhaid bod Arsenal wedi sgorio! Pwy yw e?

Pwy ydi o?

Roedd rhieni'r bachgen direidus hwn yn gobeithio y byddai e wedi blino ar ôl diwrnod yn yr ysgol. Ond yn ôl pob sôn roedd e yn dal i wneud sŵn mawr yn y pnawniau. Pwy yw e?

Pwy ydi o?

Mae'r cogydd ifanc yma bellach wedi neidio o badell ffrio San Steffan i fwydo gwybodaeth am un o gwmnïau amlycaf Prydain. Pwy yw e?

Pwy ydi o?

Roedd y bachgen yma i'w weld yn eistedd rownd y bwrdd brecwast cynnar cyn gadael i roi ei iaith ar waith yn yr ysgol. Pwy yw e?

Pwy ydi hwn?

Fydde'r bachgen yma ddim yn mentro allan o'r tŷ dyddiau yma heb got law! Mae'n ymddangos ei fod wedi bod yn gwrando yn astud yn y gwersi Daearyddiaeth! Pwy yw e?

Pwy ydi hwn?

Sgwn i a ydi'r mwnci 'na yn dipyn o niws-ans ar ysgwydd y bachgen yma? Mae'r cyrls melyn wedi hen ddiflannu ac mae e yn fwy cyfarwydd erbyn hyn gyda thrin a thrafod y ffeithiau moel. Pwy yw e?