Poole yn arwyddo i Manchester United
- Cyhoeddwyd

Gwnaeth Regan Poole ei ymddangosiad cyntaf i Gasnewydd yn 16 mlwydd oed
Mae Manchester United wedi arwyddo amddiffynnwr 17 oed Casnewydd, Regan Poole.
Fe wnaeth y chwaraewr dan 17 oed Cymru ymuno ag United ar ôl cael prawf meddygol.
Dyw ffi heb gael ei ddatgelu ond credir ei bod tua £100,000, ac y gallai godi i £400,000.
Gwnaeth Poole ei ymddangosiad cyntaf i Gasnewydd yn erbyn Amwythig yn 16 mlwydd oed a 94 diwrnod, eu chwaraewr ifancaf erioed.