Tri o fabanod yn gadael uned heintiedig yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y ward yn Ysbyty Athrofaol Cymru atal mynediad i gleifion ddydd Iau
Mae tri o'r 12 o fabanod gafodd eu heintio mewn uned gofal dwys i fabanod yng Nghaerdydd wedi cael mynd adref.
Ers dydd Iau diwetha', mae'r ward yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi atal mynediad i fabanod newydd oherwydd "clwstwr o heintiau".
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod y babanod a gafodd eu heintio wedi "ymateb yn dda i driniaeth".
Mae 13 o fabanod nawr yn yr uned, ac mae babanod eraill sydd angen gofal yn cael eu cyfeirio at ysbytai eraill.
'Anarferol'
Dywedodd cyfarwyddwr nyrsio'r bwrdd iechyd, Ruth Walker: "Byddwn yn parhau i weithio i gadw'r babanod yn ddiogel a chynnal ein cefnogaeth i famau beichiog."
Ychwanegodd y bwrdd iechyd bod mesurau wedi'u cyflwyno i atal yr heintiau - Acinetobacter baumanii ac Enterobacter - rhag lledu.
Er nad yw'n anghyffredin i fabanod gael heintiau, mae'r nifer yma o achosion, mor agos at ei gilydd yn "anarferol", meddai'r bwrdd iechyd.
Mae'r uned yn parhau i ddelio gydag achosion brys pan fo'r angen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2015
