Chris Coleman: 'Cymru angen pwyllo cyn gêm Israel'
- Cyhoeddwyd

Bale yn codi i sgorio
Dywed rheolwr Cymru Chris Coleman ei bod hi'n bwysig fod chwaraewyr Cymru "ddim yn colli arni" a bod yna waith i'w wneud cyn bod Cymru yn llwyddo i gyrraedd Euro 2016.
Mae Cymru o fewn un gêm i gyrraedd y rowndiau terfynol ar ôl buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Cyprus yn erbyn Nicosia nos Iau.
Bydd Cymru yn chwarae Israel yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Byddai buddugoliaeth yn ddigon i sicrhau lle i Gymru yn y rowndiau terfynol yn Ffrainc.
Dywedodd Coleman y dylai cefnogwyr fwynhau'r fuddugoliaeth yng Nghyprus.
"Maen nhw wedi aros amser hir, mae'n gyfle iddyn nhw fwynhau." meddai.
"Ond rhaid i ni beidio colli arni.
"Gallai i ddim gwneud hynny, na'r chwaraewr na'r staff - a gwnawn ni ddim.
"Dim bwys sut rydym yn ei wneud o, os rydym wedi blino yn gorfforol neu yn feddyliol, ond mae'n rhaid i ni baratoi ein hunain ar gyfer gem fawr arall.
"Mae'n rhaid i ni gyrraedd y disgwyliadau mawr. Rydym wedi gwneud hynny hyd yn hyn, a gobeithio gallwn wneud o eto."
Gareth Bale yn sgorio'n fyw ar Newyddion 9

Mae Cymru ar frig grŵp B gyda 17 pwynt.
Daeth buddugoliaeth Cymru nos Iau, diolch i beniad pwerus Gareth Bale yn dilyn croesiad Jazz Richards naw munud cyn diwedd y gêm
Ar ddechrau'r rowndiau rhagbrofol, Cymru oedd y pedwerydd detholion yn y grwp y tu ôl i Wlad Belg, Bosnia Hercegovina ac Israel.
Cymru sydd bellach ar frig y grwp, yn nawfed ymysg detholion y byd ac o fewn un gêm i gyrraedd rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd am y tro cyntaf ers 1958.