Archwilio bachgen: Disgyblu plismyn
- Cyhoeddwyd
Mae dau blismon gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi cael eu disgyblu yn dilyn cwynion fod bachgen 15 oed wedi gorfod diosg ei ddillad a'i archwilio a hynny heb fod oedolyn priodol yn bresennol.
Cafodd y bachgen, a phedwar bachgen arall, eu stopio a'u harchwilio gan yr heddlu yn Llandudno ym Mai 2012 o dan y ddeddf Camddefnydd Cyffuriau.
Cafodd y bechgyn eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.
Dywedodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu eu bod yn derbyn cwyn tad y bachgen am y modd cafodd ei fab ei drin.
Dywedodd David Drew o Landudno: "Mae hon wedi bod yn broses hir, wedi cymryd tair blynedd ... dwi ddim yn hollol fodlon, byddai mwy o gamau wedi bod yn well.
"Mae hyn wedi effeithio ar John. Dyw e ddim yr un bachgen."
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi mabwysiadu nifer o fesurau er mwyn sicrhau fod archwiliadau o'r fath yn cael eu cynnal mewn modd "cyfreithiol a phriodol."
Yn ôl y comisiwn, roedd yr heddweision yn euog o gamymddwyn proffesiynol, gan iddyn nhw fethu sicrhau fod oedolyn yn bresennol.