'Straen diangen' ar dîm achub mynydd Llanberis
Gyda chynifer o ymwelwyr a cherddwyr yn ymweld ag Eryri, mae tymor yr haf wastad yn brysur.
Ond i Dim Achub Mynydd Llanberis mis Awst o'dd y prysura' erioed.
Fe dreulion nhw gannoedd o oriau'n helpu pobl ar y mynyddoedd, ac mae'r gwirfoddolwyr yn rhybuddio bod galwadau diangen am gymorth yn rhoi straen mawr ar y gwasanaeth.
Gohebydd BBC Cymru, Nia Cerys aeth draw i Nant Peris.