Gosod dyddiad cau i geisio costau gofal yn ôl
- Cyhoeddwyd

Mae gan gleifion nes 1 Hydref i gofrestru ar gyfer costau
Mae pobl sy'n credu y dylai eu costau gofal tymor hir fod wedi eu talu gan Wasanaeth Iechyd Cymru yn cael eu hannog i gofrestru i wneud cais i gael yr arian yn ôl.
Gall Gofal Iechyd Parhaus y GIG dalu costau gofal pobl sydd ag afiechydon parhaus cymhleth.
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi addo y byddai ceisiadau yn cael eu trin yn gyflym, yn dilyn beirniadaeth o'r amser a gymerwyd yn delio ag achosion.
Mae gan gleifion nes 1 Hydref i gofrestru ar gyfer costau a gafwyd rhwng 1 Awst 2013 a 30 Medi 2014.
I'r rheiny sy'n gymwys, mae eu hanghenion gofal - yn cynnwys costau cartrefi gofal o hyd at £40,000 y flwyddyn - yn cael eu talu gan y Gwasanaeth Iechyd.
£50m mewn ffioedd
Does dim prawf moddion ac mae'r costau ar gael i unrhyw un dros 18 mlwydd oed.
Byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am ddyfarnu ceisiadau a thalu'r bil.
Mae dros £50m mewn ffioedd cartrefi gofal wedi eu talu yn ôl i deuluoedd yng Nghymru, yn aml ar ôl oedi hir.
Dywedodd Mr Drakeford: "Bydd y byrddau iechyd yn cynnig cyngor am ddim i unigolion sydd am wneud cais, a byddant hefyd yn cwblhau'r gwaith sydd ei angen ar eu rhan.
"Byddan nhw'n ymdrin â'r ceisiadau hyn mewn modd effeithiol ac amserol. Rydyn ni hefyd yn cydweithio â'r byrddau iechyd i sicrhau bod staff yn ymdrin â'r broses yn iawn o'r cychwyn cyntaf i leihau'r nifer o bobl sy'n talu am ofal iechyd parhaus yn ddiangen."
Dylai pobl sydd eisiau gwneud cais gysylltu â'u bwrdd iechyd lleol.