Trafod dyfodol gwasanaethau mamolaeth yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Roedd cynrychiolwyr o BMA Cymru a'r bwrdd iechyd ymysg y rhai ddaeth i'r cyfarfod
Fe wnaeth tua 40 o bobl fynychu cyfarfod cyhoeddus nos Wener i drafod dyfodol gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ymgynghori ar leihau gwasanaethau mamolaeth un o dri ysbyty'r ardal - Ysbyty Maelor, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd.
Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud na allai sicrhau diogelwch gofal ar y tri safle oherwydd problemau staffio.
Wedi ei drefnu gan ymgyrchwyr lleol Plaid Cymru, roedd Dr Eamon Jessup o BMA Cymru a'r Athro Matt Makin o'r bwrdd iechyd ymysg y rhai ddaeth i'r cyfarfod.
Clywodd y cyfarfod gan Ruth Drake o elusen Charity, sy'n cefnogi uned gofal arbenigol i blant yn yr ysbyty.
Roedd angen gofal arbenigol ar ei merch, Elin, wedi iddi gael ei geni yn yr ysbyty saith mlynedd yn ôl.
Rhybuddiodd Ms Drake: "Ni all symud gofal i Gaer neu Glan Clwyd gael ei ystyried yn unrhyw beth ond perygl."
"Pe bai hyn yn mynd ymlaen, bydd nifer o deuluoedd ar draws gogledd Cymru yn dioddef am flynyddoedd i ddod."