Ffermydd gwynt: Gwrthod pum apêl
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Sion Tecwyn
Mae'r Gweinidog Ynni Llywodraeth Prydain, Andrea Leadsom, wedi cyhoeddi penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn ymwneud â chwe phrosiect ynni gwynt ym Mhowys.
Daw'r penderfyniadau yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus a gafodd ei gynnal ar gais yr Ysgrifennydd Gwladol ar Ynni a Newid Hinsawdd, ac a ddaeth i ben ym mis Mai 2014.
Dyma'r penderfyniadau:
Fferm wynt Llanbadarn Fynydd - wedi ei wrthod;
Ailbweru fferm wynt Llandinam - wedi ei gymeradwyo;
Fferm wynt Llaithddu - wedi ei wrthod;
Fferm wynt Llanbrynmair - wedi ei wrthod;
Fferm wynt Carnedd Wen - wedi ei wrthod:
Cyswllt trydan uwchben y ddaear rhwng Llandinam i is-bwerdy'r Trallwng - wedi ei wrthod.
Dywedodd llefarydd ar ran Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd fod "ystyriaeth ofalus wedi ei rhoi i bob cais a'r materion yn ymwneud a chynllunio ac ynni".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y penderfyniad yn un "siomedig" a "phryderus" ac y byddai'n golygu bod yr ardal yn "methu allan ar fuddsoddiad, swyddi, cytundebau a miliynau o bunnoedd mewn budd-daliadau cymunedol".
Ymateb
Mae'r aelod seneddol dros Sir Drefaldwyn, y Ceidwadwr Glyn Davies, wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y ffermydd gwynt ac roedd yn croesawu'r cyhoeddiad:
"Mae'r penderfyniadau i wrthod pob un ond un yn newyddion da i Sir Drefaldwyn. Mae'r tirlun rhyfeddol wedi cael ei achub rhag dinistr er mwyn dinistr.
"Roedd y cynnig yn un cwbl afresymol ac ansensitif. Rwy'n gobeithio nawr y bydd y National Grid yn tynnu nôl eu cynllun ar gyfer llinellau 400kV ac isorsaf anferth.
"Mae'r arian sydd wedi ei wastraffu yn sgandal, ac mae'r pryder a rhwygiadau sydd wedi eu hachosi i'r bobl yr wyf yn eu cynrychioli wedi bod yn gwmwl du dros bobl Sir Drefaldwyn dros y deng mlynedd diwethaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2015

- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2014
