Arolygon barn: Cwmni'n torri rheolau
- Cyhoeddwyd

Roedd geiriad y cwestiwn ynglŷn ag ariannu cyffuriau canser
Mae'r Gymdeithas Ymchwil Farchnata wedi dweud bod cwmni cynnal arolygon barn ICM wedi gweithredu'n groes i god ymddygiad.
Dywedodd y CYF fod geiriad cwestiwn ynglŷn ag ariannu cyffuriau canser yn arwain y sawl oedd yn cymryd rhan i fynegi barn benodol.
Dyfarnwyd hefyd fod polisi a threfn ICM parthed cytuno cwestiynau ar yr achlysur yma yn annigonol.
Yn ôl ICM, mae'r dyfarniad yn codi cwestiynau ynglŷn â phwrpas CYF.
"Mae ICM yn siomedig gyda chasgliad ymchwiliad CYF," meddai Cyfarwyddwr ICM Martin Boon.
'Amddiffyn'
"Rydyn ni'n mynnu bod modd amddiffyn y cwestiwn dadleuol gafodd ei strwythuro yn yr union yr un modd â chwestiynau sy'n cael eu defnyddio gan gwmnïau cynnal arolygon barn drwy'r amser."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch bod y Gymdeithas Ymchwil Farchnata wedi cefnogi'r gwyn hon.
"Mae'n siomedig bod ICM a BBC Cymru wedi trin y fath fater polisi cyhoeddus sensitif yn y ffordd y dangosodd canfyddiad yr ymchwiliad hwn."
Roedd y pôl ym mis Ionawr eleni.