Buddsoddiad yn creu 64 o swyddi yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni Affresol wedi datblygu concrit synthetig yn defnyddio poteli plastig
Bydd 64 o swyddi yn cael eu creu gyda chwmni gwneud concrit yn Abertawe diolch i fuddsoddiad o £850,000.
Mae cwmni Affresol wedi datblygu concrit synthetig yn defnyddio poteli plastig.
Gall ei ddefnyddio ar gyfer adeiladau allanol ac fel concrit diwydiannol.
Bydd y buddsoddiad tair blynedd, sy'n cael ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru, yn diogelu 17 o swyddi yn ogystal â'r 64 o rai newydd.