Cyngor yn ystyried dyfodol canolfannau hamdden a theatrau
- Cyhoeddwyd

Bydd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin yn cwrdd ddydd Llun i drafod dyfodol canolfannau hamdden a theatrau yn wyneb yr angen i arbed arian.
Un o'r opsiynau dan ystyriaeth yw ffurfio partneriaeth gyda sefydliad neu ymddiriedolaeth nid er elw i fod yn gyfrifol am redeg a chynnal rhai o ganolfannau amlwg y sir.
Bydd y pwyllgor craffu yn ystyried dyfodol canolfannau hamdden Llanelli, Caerfyrddin, Rhydaman, Castellnewydd Emlyn, San Clêr a Llanymddyfri.
Hefyd dan y chwydd wydr bydd dyfodol theatrau, gan gynnwys Theatr Ffwrnes, Llanelli, Y Lyric yng Nghaerfryddin a'r Miners yn Rhydaman.
Arbed £30m
Mae adroddiad i gynghorwyr wedi awgrymu creu sefydliad nid er elw, os na fydd y cyngor yn gallu denu diddordeb.
Yn ôl swyddogion fe allai sicrhau partneriaeth gyda sefydliad o'r fath arbed arian i'r sir.
Mae'r swyddogion hefyd yn dadlau fod o'n fodd o warchod rhai gwasanaethau anstatudol.
Bydd penderfyniad y pwyllgor craffu yn mynd gerbron cabinet y sir am benderfynaid terfynol ar 28 Medi.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio arbed £30 miliwn dros gyfnod o dair blynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2014
