Cyngor i ymgynghori ar wahardd ysmygu ar draethau
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun i wahardd ysmygu ar draeth yn Sir Benfro wedi cymryd cam ymlaen, wrth i'r cyngor gytuno i ymgynghori ar y mater.
Cyngor Sir Penfro fyddai'r cyngor cyntaf yng Nghymru i greu traeth di-fwg.
Maen nhw'n gyffredin mewn rhai taleithiau yn yr UDA, a hefyd yng Nghanada, Mexico, Japan ac Awstralia.
Bydd y cyngor yn cynnal ymgynghoriad i benderfynu pa draeth ddylai gael ei ddefnyddio mewn cynllun peilot.
Fe wnaeth Cyngor Sir Penfro hefyd bleidleisio i wahardd ysmygu mewn parciau a meysydd chwaraeon - yr awdurdod diweddaraf i wneud hynny.
Mae'n cynnwys gwaharddiad ar e-sigarets.