Cwpan Rygbi'r Byd: Eli Walker allan
- Cyhoeddwyd

Eli Walker (chwith) allan, a Ross Moriaty (dde) yn camu i'r adwy
Mae Ross Moriarty wedi ei alw i garfan Cymru wedi i Eli Walker gael ei anafu ar drothwy Cwpan Rygbi'r Byd.
Fe ymunodd Walker â'r garfan wedi i Leigh Halfpenny ddioddef anaf yn y gêm ddiweddar yn erbyn Yr Eidal.
Nawr, mae wedi anafu llinyn-y-gâr, ac mae Ross Moriarty wedi cymryd ei le.
Mae Moriarty - 21 oed - yn fab i'r cyn-chwaraewr rhyngwladol, Paul, ac yn nai i gyn-gapten Cymru, Richard Moriarty.