Cymru'n 'paratoi' i gartrefu ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd

Ffoaduriaid Syria yng ngwersyll Zaatari yn Yr Iorddonen
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud fod Cymru'n "paratoi'r tir" er mwyn rhoi cartref i ffoaduriaid.
Mewn uwchynhadledd cafodd cynlluniau eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cynghorau a chyrff cyhoeddus wrth ymateb i argyfwng ffoaduriaid Syria.
Dywedodd Mr Jones: "Roedd yr uwchgynhadledd yn adeiladol iawn rhwng y sefydliadau allweddol. Mae pob un yn barod ac yn awyddus iawn i chwarae eu rhan wrth ymateb i'r argyfwng hwn sydd wedi brawychu'r byd cyfan.
"Byddaf yn dal i bwyso ar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig i gynnig lloches i lawer iawn mwy nag 20,000 dros y pum mlynedd nesaf.
"Byddaf yn ysgrifennu at David Cameron i'w hysbysu o ganlyniadau'r uwchgynhadledd a byddaf yn galw unwaith yn rhagor am i adnoddau gael eu darparu'n gyflym er mwyn inni allu helpu plant ac oedolion sy'n agored i niwed wrth i'r gaeaf agosáu."
Tasglu

Roedd y gynhadledd ym Mae Caerdydd ddydd Iau

Mae miloedd o ffoaduriaid wedi cyrraedd Ewrop i wneud cais am loches
Dywedodd y byddai tasglu'n cael ei sefydlu "er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod faint o bobl rydym yn barod i'w derbyn, a beth fydd eu hanghenion".
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths fydd yn cadeirio'r tasglu, fydd yn arwain cydlynu'r ymateb i'r argyfwng er mwyn ailsefydlu'r ffoaduriaid yn y ffordd fwyaf effeithlon.
Mae disgwyl i'r tasglu newydd gwrdd o fewn wythnosau.
Ar ddiwedd yr uwchgynhadledd dywedodd yr holl bartneriaid eu bod yn barod i gydweithio oherwydd argyfwng ffoaduriaid Syria.
Nwyddau
Yn ddiweddar roedd nifer o elusennau ac unigolion o Gymru yn casglu nwyddau ac arian er mwyn cynorthwyo'r ffoaduriaid.
Dywedodd yr Ysgriefnnydd Cartef Theresa May y byddai'r ffoaduriaid cyntaf o Syria o fewn y diwrnodau nesa.
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi amcangyfrif y gallai Cymru rhoi cartref i tua 1,600 o bobl Syria.