Pleidlais eglwys: Mwy na hanner o blaid priodasau'r un rhyw
- Cyhoeddwyd

Mae pleidlais ddirgel wedi dangos bod dros hanner aelodau corff llywodraethu'r Eglwys yng Nghymru yn credu y dylai cyplau o'r un rhyw gael priodi yn yr eglwys.
Daw'r bleidlais yn dilyn ymgynghoriad a thrafodaethau yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau.
Roedd yr eglwys am wybod barn y corff llywodraethu am briodasau'r un rhyw er mwyn i'r esgobion drafod ymhellach. Bydd unrhyw newid cyfansoddiadol yn ddibynnol ar basio mesur newydd.
Ar ôl cyhoeddi canlyniad y bleidlais dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, y byddai'n annoeth pasio mesur fyddai'n caniatáu i gyplau o'r un rhyw gael priodi yn yr eglwys oherwydd y peryg y gallai hyn rwygo'r eglwys.
Dangosodd canlyniad y bleidlais nad oedd na fwyafrif o ddwy ran o dair yn unrhyw un o dair adain yr eglwys fyddai o blaid y fath benderfyniad.
Byddai hyn yn golygu y byddai mesur o'r fath yn methu ennill digon o gefnogaeth.
Pleidleisiodd 61 o'r corff rheoli, sy'n cynnwys esgobion, clerigwyr ac aelodau lleyg, o blaid opsiwn i alluogi cyplau o'r un rhyw i briodi yn yr eglwys.
Pleidleisiodd 50 o blaid dim newid, a naw o blaid caniatáu bendithion yn yr eglwys.