Lleihau dedfryd treisiwr o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae dedfryd dyn o Gaerdydd wnaeth dresio dynes tra ei bod yn cysgu wedi cael ei chwtogi gan y Llys Apêl.
Pan gafodd Gareth Furse o'r Rhath ddedfryd o 12 mlynedd o garchar ym mis Rhagfyr, cafodd ei ddisgrifio fel "perygl i'r gymuned."
Roedd y dyn 32 oed i fod i dreulio wyth mlynedd dan glo, ac yna cyfnod o bedair blynedd dan wyliadwriaeth trwydded, ond mae'r Llys Apêl wedi penderfynu fod y ddedfryd yn rhy llym.
Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o naw mlynedd, cyfnod chwe blynedd o garchar a thair ar drwydded.
Fe fydd Furse yn gallu gwneud cais am barôl ar ôl pedair blynedd o garchar.
Fe fydd yn parhau dan amodau'r drwydded tan 2024.