Galw am drydaneiddio lein reilffordd
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Elis Roberts Newydion 9
Mae yna alwad unwaith yn rhagor i drydaneiddio'r lein reilffordd i ogledd Cymru, o Crewe i Gaergybi.
Daw'r alwad gan arweinwyr busnes wrth i Fwrdd Economaidd Gogledd Cymru gael ei lansio'n swyddogol,
Yn ôl Dilwyn Roberts, arweinydd cyngor Conwy, byddai datblygiad o'r fath yn hwb mawr i economi'r ardal.
"De' ni ddim am gael ein gadael tu ôl, yn byw yn y ganrif ddiwethaf mae cysylltiad rheilffordd fel hyn yn gysylltiad holl bwysig gyda gogledd Lloegr."
Mae'r Bwrdd newydd yn galw am ddechrau ar y gwaith yn 2020 a'i gwblhau erbyn 2025.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth San Steffan fod Llywodraeth Y DU yn benderfynol o drydaneiddio lle bod cynllun busnes yn profi mai dyna'r ateb.
Dywedodd llefarydd ar ran Ysgrifennydd Cymru: "Rydym wedi annog Llywodraeth Cymru a phartneriaid i weithio gyda'i gilydd er mwyn gweld sut y gallai gogledd Cymru elwa o welliannau i'r rheilffordd. Rydym yn edrych ymlaen at weld unrhyw gynigion sy'n dod ger ein bron."