Ymdrech i ddenu mwy o ymwelwyr i Gastell Y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae Castell Y Fflint yn denu tua 30,000 o ymwelwyr pob blwyddyn
Mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i gynyddu nifer yr ymwelwyr i gastell yn Sir y Fflint.
Mae Castell Y Fflint, sy'n denu tua 30,000 o ymwelwyr pob blwyddyn, wedi ei wneud yn flaenoriaeth gan y llywodraeth.
Mae cynlluniau ar droed i wneud gwelliannau i'r castell a chynllunio gweithgareddau newydd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Twristiaeth Ken Skates bod y llywodraeth wedi cydnabod "potensial y castell i ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr oherwydd ei agosrwydd i'r ffin â Lloegr a chysylltiadau i gestyll eraill Edward I yng ngogledd Cymru".