Cais i godi £100,000 i adfer mynwent yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae capeli ym Mynwent Cathays - sy'n fynwent restredig Gradd II - angen gwaith adfer
Mae ymgyrch wedi ei lansio i godi £100,000 i adfer capeli mewn mynwent yng Nghaerdydd.
Mae capeli ym Mynwent Cathays - sy'n fynwent restredig Gradd II - angen gwaith adfer, ac mae Cyngor Caerdydd yn gobeithio y gall y cyhoedd helpu.
Mae targed o £37,000 wedi ei nodi ar gyfer cymal cyntaf y gwaith i adfer y capel esgobyddol.
Dywedodd aelod y cabinet ar gyfer yr amgylchedd, Bob Derbyshire: "Mae arian yn dynn i bron pawb y dyddiau yma, ond fe all rhoddion bychan wneud gwahaniaeth mawr yn y pen draw."