Cyngor i ailystyried dyfodol ysgol
- Cyhoeddwyd
Fe fydd penderfyniad Cabinet Cyngor Ceredigion i gau Ysgol Cwmpadarn, yn Llanbadarn, yn cael ei drafod unwaith yn rhagor gan un o bwyllgorau craffu'r sir.
Fe benderfynodd y Cabinet ar 8 Mawrth eleni y dylid cau yr ysgol
Ond mae rhai cynghorwyr wedi galw am ailystyried y penderfyniad.
Fe fydd y Pwyllgor Cymunedau sy'n Dysgu nawr yn trafod dyfodol yr ysgol ar 28 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2015
