Polisi iaith Gwynedd: 'Dim dealltwriaeth'
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad ar addysg Gymraeg mewn ysgolion yng Ngwynedd wedi dod i'r casgliad nad oes 'cysondeb' na 'dealltwriaeth gyffredinol' o ofynion polisi iaith y cyngor mewn rhai ysgolion ar hyn o bryd.
Bu Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyngor Gwynedd yn ystyried yr adroddiad ymchwil ar addysg Gymraeg yn y sir fore Mawrth, gan bleidleisio dros dderbyn yr holl argymhellion ynddo.
Fe fydd adroddiad pellach am ddatblygiadau pellach ymhen chwe mis.
Ymysg argymhellion yr adroddiad mae sefydlu canolfan iaith newydd i ardal Bangor, a sefydlu darpariaeth drochi ieithyddol ar gyfer Ysgol Ardudwy yn Harlech.
Sefydlwyd yr Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau er mwyn asesu sut y mae polisi iaith yr awdurdod yn cael ei weithredu mewn ysgolion unigol, a'r graddau y mae'r ddarpariaeth yn gymorth i hybu'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc.
Bwriad yr ymchwiliad oedd llunio argymhellion ar gyfer gwella cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y sir, ac fe wnaeth yr ymchwiliad ganolbwyntio ar dri dalgylch, sef Ardudwy, Bangor a Botwnnog.
Argymhellion
Mae'r adroddiad ymchwil yn gwneud nifer o argymhellion, yn cynnwys:
ystyried sefydlu Canolfan Iaith i Fangor er mwyn cefnogi gweithrediad a chyflawniad polisi iaith y cyngor.
ystyried sefydlu darpariaeth addysg drochi benodol ar gyfer Ysgol Ardudwy, Harlech.
angen diffinio'n eglur natur ieithyddol holl ysgolion uwchradd Gwynedd fel ei fod yn glir i'r holl randdeiliaid beth yw natur ieithyddol yr ysgolion.
sicrhau fod canlyniadau arholiadau Saesneg yr un mor dda â'r Gymraeg, gan mai hyn yn ei dro fydd yn 'sicrhau llwyddiant y polisi iaith'.
trafod gyda Phrifysgol Bangor y posibilrwydd o osod safon benodol i ddatblygu sgiliau yn Gymraeg a safon i ddatblygu sgiliau dwyieithog ar gyfer darpar athrawon.
Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylai Ysgol Friars ym Mangor - gyda chefnogaeth y Cyngor - "adnabod cyfleoedd i wneud cynnydd pellach o'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm a bywyd yr ysgol."
'Tyllu'n ddwfn'
Fel rhan o ragair i'r adroddiad, dywedodd Cadeirydd y Grŵp Ymchwiliad Craffu, y Cynghorydd Alwyn Gruffydd: "Bu'n rhaid tyllu'n ddwfn o dan y wyneb i ganfod effaith y polisi iaith ar lawr gwlad mewn ysgolion unigol. Er y bu'n rhaid cyfyngu ein hymchwil i dair ardal benodol daeth patrwm i'r amlwg y credwn sy'n adlewyrchiad o'r sefyllfa'n draws sirol.
"Fel y dengys ein canfyddiadau mae dehongli'r polisi'n amrywio'n arw ac yn ddibynnol ar ddemograffi ieithyddol dalgylchoedd ysgolion yn ogystal ag o ran sêl athrawon a phrifathrawon unigol dros y Gymraeg. Ymddengys nad oes cysondeb nac ychwaith ddealltwriaeth cyffredinol o'r gofynion.
"O ganlyniad mae'r gweithgor wedi cynnig ugain o argymhellion y gobeithir fydd yn cael eu mabwysiadu ar fyrder. Cydnabyddir pwysigrwydd allweddol ein hysgolion i barhad y Gymraeg oddi fewn a thu allan i'w llibart - ond nid da lle gellir gwell!"