Cludo dyn a merch i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad bws
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn a merch eu cludo i'r ysbyty wedi i fws fod mewn gwrthdrawiad a phont reilffordd yn Wrecsam brynhawn dydd Llun.
Fe wnaeth y bws daro yn erbyn rheiliau ar y bont ar ffordd yr A541, Ffordd Regent, ger gorsaf reilffordd Wrecsam am 16:45.
Dywed yr heddlu y gallai'r ffordd rhwng Ffordd Bradley a Heol Crispin fod ar gau am gyfnod gan fod angen archwilio'r bont yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae traffig yn yr ardal yn cael ei ddar-gyfeirio.