Cyhuddo cyn athro o gam-drin
- Cyhoeddwyd

Cartref Bryn Alyn
Mae cyn athro wedi bod o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ar gyhuddiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol a chorfforol yng ngogledd Cymru.
Mae Richard Dafydd Vevar, 64, o Wrecsam, yn gwadu cyhuddiad o achosi niwed corfforol i Stephen Fong rhwng 1978 a 1980.
Mae o hefyd yn gwadu cyhuddiad o annog bachgen arall i ymosod yn anweddus ar fachgen 15 oed yn 1984.
Clywodd y llys fod yr honiadau yn erbyn y diffynnydd wedi eu gwneud yn 2012, yn dilyn darllediad o raglen Newsnight y BBC, oedd yn ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
Roedd Stephen Fong, sy'n 51 oed erbyn hyn, yn gyn breswylydd ynfg nghartref gofal Bryn Alyn, Wrecsam.