Gwrthdrawiad Storey Arms: Dim cyhuddiadau troseddol
- Cyhoeddwyd

Bu farw Corey Price, Alesha O'Connor, Rhodri Miller a Margaret Challis
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud na fydd unrhyw un yn wynebu cyhuddiadau troseddol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 laddodd bedwar o bobl.
Bu farw Alesha O'Connor, ei chariad Rhodri Miller a'u ffrind Corey Price, y tri'n 17 oed, a Margaret Elizabeth Challis, 66 oed, yn y gwrthdrawiad ger y Storey Arms rhwng Merthyr ac Aberhonddu ar 6 Mawrth.
Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd yr heddlu ddatganiad yn dweud: "Fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys gychwyn ymchwiliad yn dilyn marwolaeth pedwar o bobl mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ar nos Wener, 6 Mawrth, arweiniodd at farwolaeth drasig pedwar o bobl.
"Fe gafodd saith o bobl eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
"Cafodd ffeil dystiolaeth ei throsglwyddo i Wasanaeth Erlyn y Goron a ddaeth i'r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i sicrhau euogfarn mewn perthynas â'r rhai oedd yn cael eu hamau o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus neu'n ddiofal.
"Mae'r ymchwiliad troseddol bellach wedi gorffen ac fe fydd y mater yn cael ei gyfeirio at Grwner Ei Mawrhydi.
"Mae teuluoedd pawb oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad wedi cael eu hysbysu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2015

- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2015

- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2015

- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2015

- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2015

- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2015

- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2015

- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2015

- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2015
