Noson yng nghelloedd Y Gwyll?

  • Cyhoeddwyd
Y Gwyll
Disgrifiad o’r llun,

Arferai'r adeilad fod yn swyddfeydd Cyngor, swyddfa cofrestru, syrjeri deintydd ac ystafell ddarlith

GanSara Gibson
Gohebydd BBC Cymru

Mae cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i droi'r adeilad ar y prom yn Aberystwyth sy'n ymddangos yng nghyfres deledu Y Gwyll yn westy pedair seren a spa.

Cafodd yr adeilad cofrestredig ar Rhodfa'r Môr ei brynu gan gwmni eiddo o Birmingham, Hawsktones Ltd, mewn arwerthiant ym mis Medi 2014 am £530,000.

Bellach maen nhw wedi cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Ceredigion i newid yr adeilad yn westy 30 ystafell, a 39 o fflatiau. Byddai'n costio £7.5m i gwblhau'r gwaith.

Byddai'r cyfleuster hamdden foethus yn cael ei greu ar lawr islaw'r gwesty, ac mae cynlluniau hefyd yn cynnwys siop pysgod a sglodion ar yr un llawr.

Gwesty oedd yr adeilad yn wreiddiol. Cafodd ei adeiladu yn 1866 fel llety i ymwelwyr a fyddai'n cyrraedd Aberystwyth ar y trên o Birmingham.

Dymuniad y cwmni datblygu ydy y byddai modd denu ymwelwyr i'r dre unwaith eto ar y trên i aros yn y gwesty.

'Gwesty arbennigol'

Dywedodd y cynllunydd Ian Malyand: "Mae nifer o gwmnïau gwesty arbenigol wedi datgan diddordeb yn y datblygiad, ac unwaith y byddwn ni'n sicrhau'r caniatâd i newid yr adeilad o fod yn swyddfeydd i fod yn westy fe fyddwn ni'n dechrau ar y gwaith o adfer y lle.

"Y bwriad ydy cychwyn y gwaith yng ngwanwyn y flwyddyn nesa, gyda'r bwriad o agor y gwesty yn haf 2017.

"Rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni rentu'r fflatiau stiwdio, un a dau lofft i weithwyr yn y Brifysgol, staff yr ysbyty a'r llyfrgell.

"Fe fyddai rhan o'r arian sydd ei angen er mwyn gwireddu'r cynllun yn dod o incwm y fflatiau rheiny, ond rydyn ni hefyd yn ffyddiog y byddwn ni'n gallu sicrhau grantiau Ewropeaidd hefyd i'n cynorthwyo gyda'r gwaith adfer."

Y Gwyll

Roedd yr adeilad rhestredig Gradd II wedi bod ar werth am rai blynyddoedd cyn cael ei brynu gan gwmni Hawkstones Ltd.

Yn y gorffennol arferai'r adeilad fod yn swyddfeydd Cyngor, swyddfa cofrestru, syrjeri deintydd ac ystafell ddarlith. Roedd ynadon Aberystwyth yno nes 2012 hefyd.

Mae cwmni teledu Fiction Factory, sy'n cynhyrchu'r gyfres Y Gwyll/Hinterland, yn defnyddio'r adeilad fel swyddfa cynhyrchu a lleoliad ar gyfer ffilmio.

Dywedodd y datblygwyr eu bod nhw'n cysylltu'n aml gyda'r cynhyrchwyr, ac y byddan nhw'n gweithio gyda nhw er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw waith o adfer yr adeilad yn effeithio ar unrhyw ffilmio yn y dyfodol.