Alcohol: Rhybudd i bwyllo
Mae un o gomisiynwyr heddlu Cymru wedi rhybuddio y gallai pobl gael eu herlyn a'i dirwyo am brynu neu werthu alcohol i eraill sy'n barod yn feddw.
Daw rhybudd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu De Cymru, Alun Michael, wrth i'r prifysgolion baratoi i groesawu myfyrwyr newydd.
Mae Mr Michael yn pwysleisio bod angen i fyfyrwyr bwyllo wrth fwynhau noson allan.
Adroddiad Dafydd Gwynn.