Andrew RT Davies: 'Etholiad bob pum mlynedd yn rhy hir'
- Cyhoeddwyd

Mae'r bwlch o bum mlynedd rhwng etholiadau'r Cynulliad yn rhy hir, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.
Fe fydd pleidleiswyr yn mynd ati i bleidleisio y flwyddyn nesaf pan fydd tymor pum mlynedd y Cynulliad presennol yn dod i ben.
Tan nawr, mae etholiadau wedi cael eu cynnal bob pedair mlynedd.
Mae rhai wedi awgrymu fod y tymor estynedig wedi gadael gweinidogion ac ACau gyda rhy ychydig i'w wneud, gan greu diwylliant "marw" yn y Cynulliad.
Dywedodd Mr Davies ar raglen Sunday Politics Wales: "Mae pum mlynedd yn dymor sylweddol ar gyfer corff sydd a 60 o aelodau, ac ystyried fod cynifer o'r aelodau yn cael eu cymryd allan o'r system er mwyn rhedeg llywodraeth fel gweinidogion".
Ychwanegodd: "Rydym yn sicr yn mynd i rowlio ein llewys a bwrw ymlaen â'r gwaith, ond dwi'n meddwl bod angen cadw democratiaeth yn ffres, ac i wneud hynny, mae angen cwtogi'r tymor hwnnw."
Yn 2011, fe newidwyd tymor y Cynulliad o bedair i bum mlynedd, gan lywodraeth ddiwethaf y DU, er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro gydag etholiad cyffredinol y DU - sydd hefyd yn cael eu cynnal bob pum mlynedd erbyn hyn.

Deddf Cymru 2014
Fe gafodd y cylch pum mlynedd ei wneud yn barhaol yn Neddf Cymru 2014, ond bydd rheolaeth dros y mater yn cael ei drosglwyddo i weinidogion ym Mae Caerdydd dan ddeddfwriaeth newydd fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.
Dywedodd Mr Davies fod problemau yn codi oherwydd y nifer o ACau sy'n bwriadu sefyll i lawr ym mis Mai hefyd. "Mewn sefydliad lle mai dim ond 60 o aelodau sydd, mae tymor o bum mlynedd yn gyfnod hir, yn enwedig gan fod pobl yn cyhoeddi eu hymddeoliadau ymhell cyn yr amser, ac ddim yn bwriadu cael eu hail-ethol," meddai.
"Gyda phob ewyllys dda, ond mae meddyliau llawer o bobl yn crwydro wrth iddynt feddwl am yr hyn y maent yn mynd i'w wneud ar ôl yr etholiad nesa".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wrth y rhaglen nad oedd Llywodraeth Cymru yn "gwneud y gorau o'r cyfle sy'n cyflwyno ei hun" mewn cyfnod o bum mlynedd, tra dywedodd y Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams: "Mae'n ymddangos fod Llywodraeth Cymru yn gadael i ni fynd yn ara deg tuag at yr etholiad."
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Mae yna lawer o ddeddfwriaethau i fynd gerbron y Cynulliad cyn yr etholiad. O fy safbwynt, tydi byth yn gyfnod tawel.
"Mae'n mynd i fod yn gyfnod bywiog, a does dim amheuaeth am hynny. Mae pum mlynedd yn wahanol, mae'n rhaid i ni deilwra'r hyn rydym yn ei wneud fel llywodraeth dros gyfnod o bum mlynedd."
Sunday Politics Wales, BBC One Wales, 27 Medi 11:00