Disgwyl llanw uchel yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i un o lanwau uchaf y ganrif daro gorllewin Cymru ddydd Sul.
Mae'r llanw, allai gyrraedd 26 troedfedd (7.9 metr), i gyrraedd o 17:00, gyda ffotograffwyr a gwylwyr adar yn heidio i'w weld.
Dywedodd Nigel Williams o Ymddiriedolaeth Adar Dŵr a Gwlyptir yn Llanelli y bydd y llanw yn dod a miloedd o adar yn nes at y lan.
"Mae hi wir yn olygfa syfrdanol gweld yr holl dirlun yn gorlifo gydag adar," meddai.