Gallai adnewyddu siarter y BBC 'greu problemau'
- Cyhoeddwyd

Roedd Menna Richards yn siarad ar ôl derbyn gwobr arbennig gan Bafta Cymru
Fe allai arolwg o siarter y BBC adael y sefydliad mewn "trafferthion mawr", yn ôl cyn-bennaeth BBC Cymru.
Roedd Menna Richards yn siarad ar ôl derbyn gwobr arbennig gan Bafta Cymru.
Fe wnaeth hi ddisgrifio'r BBC fel "rhywbeth gwerthfawr iawn" a galwodd ar y diwydiant i "sefyll i fyny" amdano.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant John Whittingdale yr wythnos diwethaf bod angen i Lywodraeth y DU edrych ar beth yw safle'r gorfforaeth yn y tirlun darlledu.
Mae'r llywodraeth yn cynnal arolwg o siarter y BBC ar hyn o bryd, sydd yn dod i ben yn 2016.
Dywedodd Ms Richards bod Cymru wedi sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer cynyrchiadau teledu, ond y gallai adnewyddu'r siarter greu problemau.
"Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig bod pawb yn y diwydiant yn deffro a sylweddoli ein bod angen sefyll i fyny a dweud bod y BBC yn rhywbeth gwerthfawr," meddai.
'Dim bygythiad'
Fe dderbyniodd Ms Richards, cyfarwyddwr BBC Cymru o 2000 i 2011, wobr arbennig Bafta Cymru am ei chyfraniad aruthrol i deledu yn y seremoni yng Nghaerdydd nos Sul.
Dywedodd ei bod yn gobeithio na fydd adnewyddu'r siarter yn niweidio'r diwydiant teledu yng Nghymru, gan ychwanegu: "Rwy'n meddwl y byddai hi'n ffôl i geisio dadwneud y gwaith arbennig yna."
Mewn araith yng Nghaergrawnt yr wythnos diwethaf, dywedodd Mr Whittingdale y byddai'r broses o benderfynu dyfodol y BBC yn edrych ar "sut y gallai fod hyd yn oed yn well".
Ychwanegodd nad oedd unrhyw fygythiad i "statws y BBC fel darlledwr o'r safon uchaf ar draws y byd".