Dyn o Bowys yn gwadu llofruddio Craig Thomas Savage
- Cyhoeddwyd

Bu farw Craig Thomas Savage yn dilyn y digwyddiad yn Llandrindod
Mae dyn o Bowys wedi gwadu llofruddio, wedi iddo gael ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad yn Llandrindod.
Fe wnaeth Mark Leigh Thomas, 25 oed o Landrindod, bledio'n ddieuog i'r cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Bu farw Craig Savage ar 5 Gorffennaf yn dilyn digwyddiad ar Heol y Deml yn y dref.
Bydd y gwrandawiad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Hydref, ac mae disgwyl i`r achos ddechrau ym mis Mawrth 2016.
Fe gafodd Mr Thomas ei gadw yn y ddalfa.