Cyhoeddi gwahardd ysmygu yng ngharchardai Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd ysmygu'n cael ei wahardd o garchardai yng Nghymru yn ogystal â thri charchar yn ne-orllewin Lloegr o'r flwyddyn nesa ymlaen.
Cyhoeddodd y Gweinidog Carchardai, Andrew Selous, hefyd na fydd hawl gan garcharorion i ysmygu mewn mannau caeedig mewn carchardai agored o'r mis nesaf ymlaen.
Cadarnhaodd Mr Selous mai dyma'r cam cyntaf yn eu cynlluniau i wahardd ysmygu'n llwyr mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr.
Yn gynharach eleni, rhybuddiodd Cymdeithas Llywodraethwyr Carchardai y gallai gwahardd ysmygu ansefydlogi bywyd mewn carchardai.
Mae mudiad gwrth-ysmygu ASH wedi croesawu'r cyhoeddiad.