Casnewydd 0-3 Crawley
- Cyhoeddwyd

Cymro wnaeth serennu i Crawley wrth iddyn nhw drechu Casnewydd o 3-0 yn Rodney Parade nos Fawrth.
Fe wnaeth gyn-chwaraewr Abertawe, Gwion Edwards, sgorio ddwywaith i'r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf.
Edwards oedd yn gyfrifol am greu'r drydedd yn ogystal wrth i'w groesiad ganfod Matt Harrald yn y cwrt cosbi i selio'r fuddugoliaeth.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros ar waelod y tabl, gyda dim ond un fuddugoliaeth mewn 10 gêm yn Adran 2.