Hoff gais Hadleigh Parkes o gynghrair PRO12
Gyda'r PRO12 wedi ailddechrau yn yr wythnosau diwethaf, mae Clwb Rygbi wedi bod yn holi rhai o ffigyrau blaenllaw'r byd rygbi am eu hoff geisiau.
Bydd y Scarlets yn gobeithio curo Zebre yn yr Eidal penwythnos yma, a'u canolwr Hadleigh Parkes sydd wedi bod yn trafod ei hoff geisiau o gynghrair y PRO12.
Rhanbarth ei hun gafodd ddewis Parkes, a bu'n trafod ei benderfyniad gyda Clwb Rygbi.
Clwb Rygbi: Zebre v Scarlets, dydd Sul 12.45 S4C.