Dyn yn ceisio cipio merch ysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ardal Wrecsam yn chwilio am ddyn yr honnir iddo geisio cipio merch 10 oed.

Maen nhw'n apelio am dystion i'r digwyddiad tua 17:00 ddydd Iau gyferbyn ag Ysgol Gynradd Acrefair.

Dywed yr heddlu i'r dyn roi ei law o amgylch ceg y ferch a'i law arall o gwmpas ei chanol. Llwyddodd y ferch i redeg i ffwrdd.

Dywed yr heddlu fod y dyn yn gwisgo dillad du a menig du.

Dywed y ditectif brif arolygydd Neil Harrison: "Rwyf am sicrhau trigolion ein bod yn cynnal ymchwiliad trwyadl ac mae yna fwy o heddlu ar ddyletswydd yn yr ardal."