T Llew a dirgelwch y llythrennau

  • Cyhoeddwyd
T. Llew Jones

Ar 11 Hydref byddwn yn dathlu canmlwyddiant ers geni yr awdur poblogaidd T Llew Jones. Ond wyddoch chi beth yw'r 'T' yn ei enw?

Theophilus? Trefor? Taliesin?

Nage! Thomas Llewelyn Jones oedd enw llawn awdur 'Tân ar y Comin', 'Trysor Plasywernen' a llu o lyfrau eraill i blant. Ond wyddoch chi beth yw enwau llawn rhai o enwogion eraill Cymru sydd â llythyren yn eu henwau?

Mae'r atebion ar waelod y dudalen!

line
R. S. Thomas

1) Y bardd RS Thomas. Beth yw'r 'R' a'r 'S'?

a) Richard Simon

b) Ronald Stuart

c) Robert Stanley

Robert CroftFfynhonnell y llun, Huw Evans PA

2) Dyma Robert Croft, cyn-gapten tîm criced Morgannwg. Ar gardiau sgorio roedd ei enw yn ymddangos fel RDB Croft. Beth yw ei enwau canol?

a) David Bernard

b) Damien Bale

c) Donald Benjamin

Michael D. JonesFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

3) Sylfaenydd y Wladfa oedd Michael D Jones. Ond beth ydy'r 'D' yn ei enw?

a) David

b) Derfel

c) Daniel

J.P.R. Williams

4) Mae'n siŵr bod cyn gefnwr Cymru JPR Williams wedi arbed llawer o amser dros y blynyddoedd trwy osgoi sgwennu ei enw llawn wrth arwyddo llofnodion i gefnogwyr rygbi. Ond b'e ydi'r 'J' 'P' 'R'?

a) John Peter Rhys

b) James Paul Richard

c) Jacob Peregrine Robert

Andrew R.T. DaviesFfynhonnell y llun, PA

5) Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ydi Andrew RT Davies. Beth yw ei enwau canol?

a) Reginald Thatcher

b) Richard Timothy

c) Robert Tudor

J. O. Roberts

6) Dyma'r actor o Fôn, JO Roberts. Ond beth yw ei enwau cyntaf?

a) Joseph Owain

b) John Owen

c) Jams Oliver

Syr T. H. Parry WilliamsFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

7) Y bardd a'r ysgolhaig Syr TH Parry-Williams. Ond beth yw ei enwau bedydd?

a) Talog Henry

b) Trefor Hugh

c) Thomas Herbert

Russell

8) Y dramodydd a'r sgriptiwr Russell T Davies, sy'n adnabyddus am rai o straeon mwyaf cofiadwy 'Doctor Who'. Ond beth yw ei enw canol?

a) Terrence

b) Tardis

c) Talfryn

line

Atebion

1 b) Ronald Stuart Thomas

2 b) Robert Damien Bale Croft

3 c) Michael Daniel Jones

4) a) John Peter Rhys Williams

5) c) Andrew Robert Tudor Davies

6) b) John Owen Roberts

7) c) Syr Thomas Herbert Parry-Williams

8) Yr ateb cywir ydi Russell! Enw llwyfan ydi Russell T Davies. Stephen Russell Davies ydi ei enw iawn.