Crabb: 'Disgwyl mwy o ACau Ceidwadol'
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi dweud ei fod yn hyderus y gall y Ceidwadwyr sicrhau mwy o aelodau cynulliad yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales, dywedodd hefyd "nad yw'n beth iach i Gymru" bod Llafur yn ennill "etholiad ar ôl etholiad".
Wedi'r Etholiad Cyffredinol ym mis Mai eleni, roedd gan y Ceidwadwyr 11 o aelodau seneddol yng Nghymru - y nifer mwyaf ers 1983.
Oherwydd hynny, medd Mr Crabb, mae "bob rheswm i fod yn optimistig" am Etholiad y Cynulliad ym mis Mai.
'Llafur dan y chwyddwydr'
Dywedodd wrth y cyflwynydd Vaughan Roderick: "Mae gennym strategaeth glir ac mae'r ysbryd yn dda fel Ceidwadwyr Cymreig.
"Mae gennym dîm da o ymgeiswyr Cynulliad ac rwy'n credu y bydd yn ymgyrch gyffrous.
"Bydd record Llafur o fod wrth y llyw yn Llywodraeth Cymru am yr 16 mlynedd diwethaf o dan y chwyddwydr yn yr etholiad hwn."
Roedd Mr Crabb yn cyfadde' na all ei blaid anwybyddu'r "ffactor Jeremy Corbyn", ond y byddan nhw yn hytrach yn canolbwyntio ar faterion Cymreig a Llafur Cymru.
"Mae e {Corbyn} yn fos ar Carwyn Jones ar un ystyr felly bydd ffactor Llafur y DU yn un i'w ystyried," meddai, "ond mae'n llawer pwysicach edrych ar faterion Cymreig a pherfformiad Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd ac egluro i'r etholwyr pam ein bod yn credu y bydd ein polisïau ni'n darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaeth iechyd cryfach, gwell canlyniadau addysgol i'n plant..."
Mesur Cymru
Mae Mr Crabb mewn trafodaethau ar hyn o bryd am newidiadau i Fesur Cymru fyddai'n rhoi pwerau newydd i Lywodraeth Cymru, ond cyfaddefodd nad oedd yn disgwyl i'r trafodaethau orffen cyn yr etholiad.
"Mae angen bod yn realistig. Mae'r tirlun gwleidyddol yn esblygu wrth i Etholiad y Cynulliad agosáu, ac rwy'n llai hyderus y gallwn ni gytuno ar ganlyniad llawn cyn hynny," meddai.
"Rwyf am weld cytundeb gyda Llywodraeth Cymru ... mae yna wahaniaethau rhyngom ni, ond ry' ni'n dal i weithion galed i ddatrys unrhyw anghytuno."
'Angen newid'
Ychwanegodd y byddai'n ffôl i unrhyw blaid wrthod clymbleidio ar hyn o bryd, ond y byddai'r Ceidwadwyr yn mynd am fwyafrif clir yn yr etholiad.
Ond dywedodd hefyd: "Os fyddan ni mewn sefyllfa o fod angen clymblaid yna fe fyddai rhywun yn gobeithio y bydd bob plaid yn gweld pwysigrwydd, a'r angen i bobl Cymru, newid y bobl sy'n rhedeg y llywodraeth.
"Dyw e ddim yn beth iach i Gymru a dyw e ddim yn beth iach i Llafur Cymru i gario mlaen etholiad ar ôl etholiad yn cymryd arnyn nhw y byddan nhw mewn grym.
"Wrth edrych ar y darlun ehangach o'r hyn sydd ei angen ar Gymru mae hynny'n llai o ideoleg, llai o wahaniaethau llwythol, mwy o bragmatiaeth a mwy o gydweithio."
Bydd Sunday Supplement yn cael ei darlledu ar Radio Wales fore Sul, 4 Hydref am 08:00.