Zebre 8-20 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Mae'r Scarlets yn ôl ar frig y Pro12 ar ôl sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth o'r tymor oddi cartref yn erbyn Zebre yn Parma.
Roedd y Scarlets ar ei hôl hi 8-6 ar yr egwyl ar ôl i'r asgellwr Mattia Bellini groesi'r llinell i'r tîm cartref.
Fe wnaeth y blaenasgellwr James Davies sbarduno adfywiad y Scarlets gyda chais yn fuan wedi i'r chwarae ail ddechrau.
Fe wnaeth ciciau cosb Dan Jones a Steven Shingler ychwanegu at gyfanswm yr ymwelwyr gan sicrhau'r fuddugoliaeth.
Scarlets: Jordan Williams; Hadleigh Parkes, Regan King, Gareth Owen, Michael Tagicakibau; Daniel Jones, Rhodri Williams; Rob Evans, Emyr Phillips, Peter Edwards, George Earle, Tom Price, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay (capt)
Eilyddion: Kirby Myhill, Phil John, Will Taylor, Tom Phillips, Jack Condy, Aled Davies, Steven Shingler, Aled Thomas
Zebre: Dion Berryman; Mattia Bellini, Matteo Pratichetti, Thomas Castello, Kayle Van Zyl; Edoardo Padovani, Fabio Semenzato; Andrea Lovotti, Tommaso D'Apice, Pietro Ceccarelli, Michele Sutto, George Biagi (cap), Maxime Mbanda, Johan Meyer, Andries Van Schalkwyk.
Eilyddion: Emiliano Coria, Bruno Postiglioni, Giuseppe Di Stefano, James Taylor, Filippo Cristiano, Giulio Toniolatti, Tommaso Boni, Ian McKinley