Bale yn dathlu yng ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Bale wedi sgorio chwe gôl i Gymru yng ngemau rhagbrofol Euro 2016
Roedd Gareth Bale yn enw amlwg iawn yng Ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gafodd eu cynnal yn Neuadd y Ddinas Caerdydd nos Lun.
Enillodd seren Real Madrid a Chymru dair o'r prif wobrau.
Roedd y gwobrau eleni'n cael eu rhoi ar ôl un o'r blynyddoedd mwyaf llwyddiannus erioed i bêl-droed yng Nghymru.
Cafodd Bale ei ddewis yn Chwaraewr y Flwyddyn, a fo hefyd oedd dewis y chwaraewyr a'r cefnogwyr yn y ddau gategori hynny.
Mae'r ymosodwr wedi sgorio chwe gôl yng ngemau rhagbrofol Euro 2016, gyda Chymru angen dim ond pwynt mewn dwy gêm i gyrraedd Euro 2016 yn Ffrainc.
Rheolwr Cymru, Chris Coleman, ddaeth i'r brig yng Ngwobr Dewis y Cyfryngau, wedi iddo arwain Cymru i'r wythfed safle yn netholion Fifa.

Chris Coleman ddaeth i'r brig yng Ngwobr Dewis y Cyfryngau
Chwarter canrif o wobrau
Dyma'r 25ain gwaith i Wobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru gael eu cynnal, a'r Cymro Cymraeg Siôn Edwards, o Glwb Pêl-droed Bangor, dderbyniodd y wobr am y Chwaraewr Clwb Gorau yn Uwch Gynghrair Cymru.
Chwaraewr canol cae 20 oed Caerdydd, Tommy O'Sullivan, gafodd ei enwi'n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn.
Yr amddiffynwraig Kylie Davies enillodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn ar ran y merched, gyda Natasha Harding wedi ei dewis yn Ffefryn y Cefnogwyr a Helen Ward fel Chwaraewr y Flwyddyn y Chwaraewyr.
Ymysg yr enillwyr eraill ar y noson oedd cyn-ymosodwr Cymru Alan Curtis, enillodd Wobr Gwasanaeth Hir y gymdeithas, a Charlie Estcourt, gafodd y wobr am Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yng nghategori'r merched.