Llyfr clustnodau defaid ar y we
- Cyhoeddwyd

Heddlu'r Gogledd yw'r llu cyntaf ym Mhrydain i gyhoeddi llyfr o glustnodau defaid am ddim ar y we.
Dywedodd y cwnstabl Dewi Evans o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad: "Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd mynydd y gogledd glustnodau sy'n unigryw i'w fferm.
"Trwy ddefnyddio'r nodau, rydach chi'n lleihau'r posibilrwydd i'ch anifeiliaid gael eu dwyn, gan fod defaid sydd â nod clust yn llai tebygol o gael eu cymryd.
"Mae'r llyfr ar gael i unrhyw ffermwr neu unigolyn sydd â diddordeb yn y pwnc. Mi all unrhyw un ei ddarllen ar-lein a hyd yn oed edrych arno ar ei ffonau clyfar tra'n gweithio."
'Ffynhonnell bwysig'
Mae undebau amaethyddol wedi croesawu'r datblygiad.
Dywedodd Huw Jones o Undeb Amaethwyr Cymru: "Mae cenhedlaeth iau o ffermwyr yn siŵr o elwa o hyn yn y dyfodol, pan fydd angen diweddaru'r llyfr â nodau newydd."
Ychwanegol Swyddog Polisi'r NFU, Dafydd Jarrett: "Dyma gyfuno hen draddodiad a'r dechnoleg ddiweddaraf.
"Mae hon yn ffynhonnell wybodaeth bwysig i ffermwyr mynydd y Gogledd, a bydd ar gael yn hwylus ac yn hawdd i'w diweddaru. Mae'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad i'w canmol am hyn."
Mae llyfr 'Meirion a'r Gororau' ar gael yn barod, a bydd llyfr 'Arfon a'r Gororau' yn cael ei gyhoeddi cyn hir.
Mae modd gweld y llyfr trwy glicio yma., dolen allanol