Etholiad y Cynulliad yn 'refferendwm ar y GIG'

  • Cyhoeddwyd
WardFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru yn haeddu Gwasanaeth Iechyd gwell, yn ôl Andrew RT Davies

Bydd arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn dweud ddydd Mercher bod etholiad y Cynulliad 2016 yn "refferendwm" ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Fe fydd Andrew RT Davies yn dweud wrth gynhadledd y Ceidwadwyr y bydd mynediad i'r GIG yn gwella a buddsoddiad yn y gwasanaeth yn cynyddu pe bai'r Torïaid yn dod i bŵer.

Bydd Mr Davies yn dadlau mai dim ond y Ceidwadwyr all roi "dechrau ffres" i Gymru gan roi diwedd i Lywodraeth Lafur.

Fe fydd hefyd yn addo "chwyldroad busnesau bach" ac ariannu ysgolion yn uniongyrchol, yn hytrach na thrwy gynghorau.

Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Andrew RT Davies yn dweud y byddai'r Ceidwadwyr yn "diogelu cyllideb y Gwasanaeth Iechyd"

Bydd Mr Davies yn dweud wrth y gynhadledd ym Manceinion y byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn "diogelu cyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru", gan addo torri amseroedd aros a gwella gofal a gwasanaethau i gleifion.

"Ar ôl 17 mlynedd o reolaeth Llafur yng Nghymru, dyw ein cymunedau yn haeddu dim llai," bydd yn dweud.

"Fe fydd etholiad y flwyddyn nesaf yn refferendwm ar ddyfodol Gwasanaeth Iechyd Cymru."

Bydd Mr Davies hefyd yn dadlau y gall cynlluniau'r Ceidwadwyr i leihau cyfraddau busnes i gwmnïau llai adfywio strydoedd mawr.