Wrecsam 2-2 Tranmere
- Cyhoeddwyd
Dyw Wrecsam heb fuddugoliaeth mewn pedair gêm yn y Gynghrair Genedlaethol wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Tranmere ar y Cae Ras nos Fawrth.
Y tîm cartref aeth ar y blaen ar ôl chwarter awr wrth i Robbie Evans ganfod cefn y rhwyd o ymyl y cwrt cosbi.
Ond roedd Tranmere yn gyfartal o fewn 10 munud wrth i Lois Maynard sgorio o ychydig lathenni.
Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner wedi i ergyd Andy Mangan o du allan i'r cwrt guro Cameron Belford yn y gôl i Wrecsam.
Ond fe ddaeth y Dreigiau yn ôl i sicrhau pwynt 10 munud o'r diwedd wrth i Joe Quigley sgorio ar ôl gwaith da gan Connor Jennings.