Cynghorau'n cytuno i dderbyn ffoaduriaid o Syria
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi cytuno i dderbyn ffoaduriaid o Syria.
Daw'r cadarnhad wrth i'r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ddweud bod angen cyfyngu ar nifer y bobol sy'n ceisio am loches ym Mhrydain.
Wrth gyhoeddi adolygiad o'r system yn ei haraith i gynhadledd y Blaid Geidwadol, dywedodd bod gormod o fewnfudwyr yn gwneud hi'n anodd sicrhau cymdeithas unedig.
Owain Evans fu'n treulio'r diwrnod gyda phobl sy'n ceisio lloches yng Nghaerdydd.