Rali: 'Cyfle i ddenu sylw'r byd'
- Cyhoeddwyd

Mae'r dirprwy weinidog twristiaeth wedi dweud y bydd Rali Cymru GB yn gyfle i ddenu sylw'r byd.
Roedd Ken Skates yn annerch digwyddiad cyn y ras sy'n dechrau yn Llandudno ar 12 Tachwedd ac yn dod i ben ar Lannau Dyfrdwy ar 15 Tachwedd.
Bydd rownd ola' Pencampwriaeth Rali'r Byd yn derbyn £4.5m oddi wrth Lywodraeth Cymru am dair blynedd.
Y gred yw bod y rali'n hwb o £10m bob blwyddyn i economi Cymru.
60m yn gwylio
Mae disgwyl 160 o yrwyr, miloedd o gefnogwyr a 60m yn gwylio'r rali ar y teledu drwy'r byd.
Roedd Evans yn ail yn rownd Ffrengig y rali yn Corsica'r mis hwn.
Elfyn Evans yn edrych ymlaen at Rali GB Cymru fis nesaf

Cafodd Ken Skates gyfle i fynd am daith gydag Elfyn Evans ddydd Iau
Cafodd Mr Skates gyfle i eistedd yn sedd y llywiwr wrth i Elfyn Evans yrru ei gar rali.
Dywedodd Mr Skates: "Roedd yn brofiad anhygoel."
Mae Ben Taylor, rheolwr gyfarwyddwr y trefnwyr, International Motor Sports, wedi dweud: "Mae'r ras yn fwy poblogaidd ers symud o Gaerdydd i'r gogledd ..."