Gwrthdrawiad Merthyr: Cyhoeddi enwau dau ddyn fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enwau dau ddyn ifanc fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful nos Sul.
Bu farw Rhys Jones, 18 oed, a Ryan Gibbons, 20 oed - y ddau o ardal Bargoed - wrth i gar Seat Ibiza gwyn daro polyn ar Ffordd Aberdâr.
Roedd pum dyn ifanc rhwng 18-20 oed yn y car ar y pryd, ac mae trydydd teithiwr yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae gyrrwr y car, dyn 20 oed, wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae teyrngedau wedi'u gadael ger safle'r ddamwain ar Ffordd Aberdâr
Mae pedwerydd teithiwr yn parhau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful gyda man anafiadau.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un oedd wedi gweld y car yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw.
Bu'n rhaid cau'r ffordd am saith awr tra roedd ymchwiliad cychwynnol yn cael ei gynnal, ac mae'r heddlu wedi diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a dealltwriaeth tra roedd y ffordd ar gau.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1500377114.