20% yn fwy o droseddau casineb yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae cynnydd o 20% wedi bod yn nifer y troseddau casineb sy'n cael eu cofnodi yng Nghymru, yn ôl ystadegau'r Swyddfa Gartref.
Cafodd 2,259 o achosion eu cofnodi yn 2014-15 tra oedd 1,877 yn 2013-14.
Roedd y rhan fwyaf, 75% neu 1,677, yn ymwneud â hiliaeth.
Yn ôl ymgyrchwyr, mae'r cynnydd yn deillio o'r faith bod pobl yn fwy tebygol o roi gwybod i'r awdurdodau.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb, Mark Warrender: "Rydyn ni'n croesawu'r cynnydd yn nifer y troseddau casineb sydd wedi eu hadrodd fel arwydd bod cymunedau yn fwy hyderus ...
"Er y gall ymddangos yn bryderus bod y lefelau wedi cynyddu, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod mwy o droseddau yn digwydd.
'Gwaith o hyd'
"Ond mae gwaith o hyd i'w wneud.
"Er bod peth o'r cynnydd mewn troseddau casineb yn arwyddocaol, mae'r niferoedd yn dal i fod yn isel, yn enwedig ar gyfer troseddau yn erbyn pobl anabl a thrawsrywiol neu droseddau ar sail crefydd."
Ar ôl hiliaeth roedd y nifer uchaf o droseddau yn erbyn pobl ar sail rhywedd, 351, anabledd, 202, crefydd, 84 a thrawsrywioldeb, 38.
Mae'r cynnydd yng Nghymru yn weddol agos at yr un yng Nghymru a Lloegr.