Merch 16 oed wedi ei tharo gan gar yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
The junction of Clare Road and Tudor Street, CardiffFfynhonnell y llun, Mick Lobb/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y ferch ei tharo ar gyffordd Ffordd Clare a Stryd Tudor yn ardal Grangetown

Mae merch 16 oed wedi dioddef anafiadau i'w phenglog ar ôl damwain ffordd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu De Cymru na wnaeth gyrrwr car arian stopio wedi'r ddamwain.

Fe gafodd y ferch ei tharo ar gyffordd Ffordd Clare a Stryd Tudor yn ardal Grangetown am 19:00, a chafodd ei chymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.