Cau pedair ysgol gynradd ym Môn
Mi fydd pedair ysgol gynradd ar Ynys Môn yn cau wrth i'r cyngor ad-drefnu addysg yn ne-orllewin yr Ynys.
Mi benderfynodd y pwyllgor gwaith ddydd Llun y bydd ysgol eglwys newydd sbon yn cael ei hadeiladu yn eu lle.
Mae rhieni Ysgol Llangaffo un o'r ysgolion dan sylw wedi dweud wrth Newyddion 9 eu bod yn ystyried apelio yn erbyn y penderfyniad gan ddweud fod y cyngor wedi eu hanwybyddu. Adroddiad Elen Wyn.