Taro a ffoi: Dyn wedi ei gyhuddo
- Cyhoeddwyd

Mae Julian Ruck yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol
Mae dyn 19 oed wedi ei gyhuddo wedi gwrthdrawiad yng Nghydweli pan gafodd dyn 59 oed anafiadau difrifol.
Mae e wedi ei gyhuddo o yrru'n esgeulus a methu ag aros i hysbysu'r heddlu am wrthdrawiad ac anaf i berson.
Fe gafodd yr awdur Julian Ruck anafiadau difrifol i'w ben a'i goes ar ôl cael ei daro ar Heol Newydd yn y dref tua 19:30 nos Sadwrn.
Cafodd Mr Ruck ei gludo i ysbyty Treforys yn Abertawe. Mae e'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Mae disgwyl i'r dyn 19 oed fynd o flaen Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher, 11 Tachwedd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Heol Newydd