Aston Villa 1-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Aston Villa 1-2 Abertawe
Andre Ayew sicrhaodd y fuddugoliaeth i Abertawe yn erbyn Aston Villa oddi cartref ym Mharc Villa.
Dyma'r fuddugoliaeth gynta' i Garry Monk a'i garfan ers chwe gêm.
Fe aeth y tîm cartref at y blaen wedi gôl Jonathan Ayew yn gynnar yn yr ail hanner, ond wedi perl o gôl gan Gylfi Sigurdsson, fe ddaeth yr ymwelwyr yn ôl mewn i'r gem.
Wedi gôl Andre Ayew, sicrhawyd y triphwynt.